Peirianneg ar gyfer BYW - Cystadleuaeth Ffotograffiaeth                                                
Dathlu defnyddio canfyddiadau ymchwil peirianyddol yn ein bywydau bob dydd

CYSTADLWCH NAWR
Byddwch yn rhan o Beirianneg ar gyfer Byw drwy ddangos i ni sut mae datblygiadau mewn peirianneg wedi effeithio ar ansawdd eich bywyd: drwy sicrhau eich iechyd a’ch diogelwch chi a’ch teulu, drwy ei gwneud yn haws i chi fwynhau eich ffordd o fyw neu drwy wella’ch perfformiad mewn chwaraeon. 

Mae ymchwilwyr mewn prifysgolion ar draws Cymru’n edrych ar wahanol agweddau ar beirianneg ar gyfer byw. Ymhlith y rheini mae: meddygaeth chwaraeon; gosod pen-gliniau newydd; dadansoddi’r ffordd y mae cymalau bodau dynol yn symud; gweithio gyda llawfeddygon asgwrn y cefn i ddeall biomecaneg asgwrn y cefn; ymchwilio i anafiadau i’r pen mewn plant bach; ymateb y corff i drawmâu o drawiadau pŵl a miniog; delweddu meddygol megis uwchsain, delweddu cyseiniant magnetig a sganwyr corff cyfan; a dylunio seddau cadeiriau olwyn a thechnolegau eraill sydd o fudd i’r henoed a’r eiddil. Mae yna lawer o ymchwil yn digwydd ar hyn o bryd hefyd i beirianneg ar gyfer atal anafiadau a gwella perfformiad mewn chwaraeon. Yr hyn sy’n gyffredin i’r holl ymchwil hwn yw bod yr holl dechnolegau a ddatblygwyd o ganlyniad i’r ymchwil yn cyfrannu tuag at ein bywydau bob dydd a gallwch chi brofi eu heffeithiau yn y gwaith, wrth chwarae neu yn y cartref.

Anfonwch eich llun yn awr am y cyfle i ennill gwobr ariannol o £1000! Enwir enillwyr mewn pum categori, gyda phob un yn ennill gwobr ariannol ar gyfer yr ail oreuon o £500. Bydd yr ymgais a fernir yn orau oll yn ennill gwobr ariannol o £1000. Dyma’r categorïau:

  • Y dehongliad mwyaf creadigol o’r gofynion
  • Y llun technegol gorau
  • Y llun gorau sydd wedi’i ddiwygio
  • Y llun gorau a gymerwyd gyda ffôn symudol
  • Cystadleuwyr o dan 16 oed

Open the flyer (below) for more information and example images:

Gwobr ariannol o £1000!

Dangos eich llun yn arddangosfa Peiranneg ar gyfer Byw

Cewch gystadlu am ddim

Closing date: 

31st May, 2010

Rheolau Cystadlu

Ffurflen gystadlu

 

ENGLISH

HOW TO ENTER: Simply submit your image(s), along with an entry form, to info@graphicscience.co.uk Or by post to: Engineering for Life Photo Comp; Graphic Science Ltd; The Sheilings; Felton Common; North Somerset; BS40 9YP. Remember to include an entry form. Remember to read the terms and conditions before applying.