|
Dathlu defnyddio
canfyddiadau ymchwil peirianyddol yn ein bywydau bob dydd.
RHEOLAU A
CHYMHWYSTER
- Wrth gystadlu, bydd yr
ymgeisydd yn cadarnhau ei fod/bod wedi darllen y rheolau ac yn cytuno
i gydymffurfio â hwy.
- Rhaid i’ch ymgais
fod yn waith gwreiddiol gennych chi yn unig ac ni chaniateir iddo
ddifrďo neb na thorri unrhyw hawlfraint.
- Cyfrifoldeb y
cystadleuwyr yw sicrhau caniatâd i gynnwys unrhyw berson y gellir ei
adnabod yn y llun (neu ganiatâd eu rhieni neu ofalwyr yn achos pobl o
dan 16 oed) mewn ymgais ar gyfer y gystadleuaeth ac i gyhoeddi llun y
person hwnnw ar-lein ac mewn unrhyw gyfrwng arall yn ôl y gofyn.
- Os byddant yn
llwyddiannus cytuna’r cystadleuwyr buddugol i ddarparu ffeil
wreiddiol y llun i Beirianneg ar gyfer Byw a chytunant y gellir
argraffu’r, ei gyhoeddi ar-lein a’i ddefnyddio mewn arddangosfa
gyhoeddus o’r lluniau buddugol.
- Ni chaniateir diwygio
digidol ond yn achos lluniau a gyflwynir o dan gategori ‘Y llun
gorau sydd wedi’i ddiwygio’.
- Hysbysir yr enillwyr
drwy alwad ffôn neu neges e-bost.
- Dewisir yr enillwyr
gan banel o feirniaid – bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac
ni ohebir o gwbl ynghylch hynny.
- Ceidw tîm Peirianneg
ar gyfer Byw yr hawl i newid neu ddiddymu’r gystadleuaeth hon ar
unrhyw adeg.
- Cedwir eich manylion
cyswllt personol gan dîm Peirianneg ar gyfer Byw. Ni fydd Peirianneg
ar gyfer Byw yn trosglwyddo’ch manylion i unrhyw drydydd parti.
- Os na ellir cysylltu
â chystadleuydd buddugol ar ôl gwneud ymdrechion rhesymol i wneud
hynny, ceidw Peirianneg ar gyfer Byw yr hawl un ai i gynnig y wobr
i’r ymgais nesaf yn nhrefn teilyngdod neu i atal y wobr.
- Cyflwynir pob gwobr
ariannol a ddyfernir i bobl o dan 16 mlwydd oed i riant neu ofalwr.
|
SUT I GYFLWYNO EICH
LLUNIAU
- Rhaid anfon ffurflen
gystadlu gyda phob ymgais.
- Dylid anfon lluniau
drwy e-bost at info@graphicscience.co.uk,
(gan nodi “Engineering for Life Photo Comp” fel pwnc y neges) neu
drwy’r post at Engineering for Life Photo Comp, The Sheilings,
Felton Common, North Somerset BS40 9YP.
- Ymddiheurwn na fedrwn
ddychwelyd eich lluniau atoch.
- Drwy gyflwyno’ch
lluniau byddwch yn cytuno y gall Peirianneg ar gyfer Byw a chyrff
cysylltiedig eu defnyddio yn y dyfodol yn ddi-dâl.
Bydd y
gystadleuaeth yn cau am hanner nos ar
31st
May 2010
Ffurflen
gystadlu
BACK
TO MAIN PAGE
|
ENGLISH |